Uwch Gynghrair Malta

Uwch Gynghrair Malta
Gwlad Malta (14 clwb)
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd1909 (1909)
Nifer o dimau12
Lefel ar byramid1
Disgyn iAdran 1af Malta (Maltese First Division)
CwpanauCwpan Malta
Super Cup Malta
Cwpanau rhyngwladolCynghrair y Pencampwyr UEFA
Cynghrair Europa UEFA
UEFA Europa Conference League
Pencampwyr Presennol2022-23: Ħamrun Spartans (10)
(2019–20)
Mwyaf o bencampwriaethauSliema Wanderers a Floriana (26ain teitl yr un)
Partner teleduTVM2 & Melita Sports 1 (gemau byw)
GwefanMFA.com.mt
2023–24

Uwch Gynghrair Malta, a elwir yn swyddogol wrth yr enw Saesneg, Maltese Premier League, neu BOV Premiere League am resymau nawdd (BOV yw acronym y noddwr Bank of Valletta), yw adran uchaf cynghrair pêl-droed Malta, ac mae'n cynnwys pedwar tîm ar ddeg. Fe'i gelwir ar lafar yn yr iaith Malteg yn Il-Kampjonat, Il-Lig neu Il-Premjer. Cyn 1980 galwyd yr adran gyntaf yn Adran Gyntaf, heddiw hi yw enw'r ail adran.

Wedi chwarae ers 1909, ei dimau mwyaf llwyddiannus yw Sliema Wanderers a Floriana, sydd gyda'i gilydd wedi ennill mwy na hanner cant o deitlau.

Gweinyddir y Gynghrair gan Gymdeithas Bêl-droed Malta. Ar Awst 2018, roedd y Gynghrair wedi ei tablu yn safle 45 allan o 55 o gynghreiriau UEFA.[1] Ni all timau Malteg gael mwy na thri chwaraewr nad ydyn nhw'n ddinasyddion aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd.

  1. "UEFA Country Ranking 2019". kassiesa.home.xs4all.nl. 26 July 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-10. Cyrchwyd 2020-08-25.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search